Faint
‘Dwi’n falch nad oeddwn wedi gweld ‘Faint’ yn ysgrifenedig. Yn Saesneg mae’r gair yn awgrymu rhywbeth hollol wahanol. Yn Gymraeg, rhoddodd i mi’r ddelwedd amlwg, wastad, o ddwy linell drwchus o’r chwith i’r dde, ac o’i lawr i fyny yn cyfarfod mewn pwynt yn y gornel dde. Roeddwn yn ymwybodol yn syth mai darn sgwâr fyddai hwn. Gwnai i mi feddwl am symbolau ac arwyddluniau.
Roedd rhaid gosod gem ar y pwynt hwnnw i’r top, dde, i dynnu sylw at gydgysylltiad y llinellau. Arbrofais gyda patina metel lliwgar, a wnaeth yr union beth yr oeddwn eisiau, ond hawdd oedd ei grafu i ffwrdd. Mae gan y darn bin-dwbl ac mae wedi’i greu o ddarn solat o arian 1mm trwchus sydd 10cm wrth 10cm. Gosodais saffir glas/wyrdd mewn aur yn y gornel i gyferbynnu â’r du, y melyn llachar a’r oren a ddewisais. Mae rhywbeth hapus iawn mewn gwneud gwrthrych geometrig perffaith (mewn metel gwerthfawr) ac wedyn, yn ofalus, ei wneud i edrych yn wahanol.
Y darn yma sy’n adlewyrchu fy themâu craidd, a’r rhai rwyf yn dychwelyd iddynt wrth greu gemwaith; gemwaith a allai fod wedi’i ddarganfod o’r gorffennol. Roeddwn am i’r darn ymddangos fel ei fod wedi bod â gorffennol ac wedi ei gloddio neu ei ddarganfod. Felly curais yr arian a naddu’r ymylon i adlewyrchu hyn. Cafodd ei heneiddio gan sicrhau ei fod yn parhau’n gryf gan sgwrio’r patina ac ocsideiddio’r cyfan. Roedd yn teimlo’n hollol iawn ar ôl gorffen. O’r deg darn, hwn ydy’r un sydd yn mynd i gael y mwyaf o ddylanwad ar gyfeiriad fy ngemwaith i’r dyfodol.
All photographs ©Aga Hosking Branding